Skip to content

Cyngor a chymorth yn ymwneud â’r Coronafeirws

This fact sheet covers England & WalesWe also have a version for Scotland if you need it.

Mae’r Coronafeirws wedi cael effaith fawr ar bob agwedd ar fywydau pobl. Mae nifer o bobl yn gorfod ymdopi ar incwm llai. Mae’r llywodraeth, banciau a sefydliadau eraill wedi dweud efallai y byddant yn cynnig help os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch. Yn y daflen ffeithiau hon, esbonnir pa help sydd ar gael os ydych yn gorfod byw ar incwm llai, os ydych angen cymorth ychwanegol neu os ydych yn ei chael hi’n anodd talu biliau eich cartref neu eich dyledion oherwydd y Coronafeirws.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn cynnig cyngor a help yn ymwneud â’r meysydd canlynol:

  • Y Coronafeirws a’ch incwm
  • Y Coronafeirws a diswyddiadau
  • Y Coronafeirws a’ch cartref
  • Y Coronafeirws a’ch biliau
  • Y Coronafeirws a’ch dyledion
  • Y Coronafeirws: cymorth ychwanegol

Hefyd, cewch fanylion am daflenni ffeithiau eraill gan y Llinell Ddyled Genedlaethol a allai fod o fudd i chi.

Y Coronafeirws a’ch incwm

Efallai y cewch help o fath arall os ydych yn hunangyflogedig. Gall y Llinell Ddyled i Fusnesau roi mwy o wybodaeth i chi, gweler www.businessdebtline.org.

Help i gyflogedigion

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – estynnwyd

Cafodd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) ei gyflwyno er mwyn atal yr angen i’ch cyflogwr ddileu eich swydd. Os ydych wedi eich cofrestru ar y cynllun, byddwch yn cael eich ystyried fel gweithiwr ar ffyrlo, sy’n golygu eich bod yn cael eich cadw ar gyflogres eich cyflogwr yn hytrach na’ch bod yn colli eich swydd.

Roedd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i fod i ddod i ben ym mis Hydref 2020, ond yn awr bydd ar waith tan fis Medi 2021.

Hyd nes y caiff y cynllun ei adolygu ym mis Ionawr 2021, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn talu 80% o’ch cyflog i’ch cyflogwr, hyd at £2,500. Bydd angen i’ch cyflogwr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn sylfaenol.

Gall eich cyflogwr ddod â chi’n ôl i’r gwaith dros dro. Bydd hyn yn galluogi eich cyflogwr i ddod â chi’n ôl i’r gwaith ar gyfer unrhyw gyfnod o amser ac unrhyw batrwm o sifftiau, gan barhau i ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i hawlio ar gyfer yr oriau arferol nad ydych wedi’u gweithio.

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun estynedig ar gyfer Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, bydd yn rhaid i chi fod wedi bod ar gyflogres eich cyflogwr erbyn 30 Hydref 2020.

  • Bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ddod i gytundeb gyda chi ynglŷn ag unrhyw oriau y bydd yn disgwyl i chi eu gweithio.
  • Dylai eich cyflogwr gadw cytundeb ysgrifenedig newydd yn cadarnhau’r trefniant ffyrlo newydd.
  • Gall trefniant ffyrlo hyblyg bara am unrhyw gyfnod o amser, a gellir llunio cynifer o drefniadau ag y bo angen.
  • Ni fydd yna leiafswm cyfnod ar gyfer bod ar ffyrlo.

Mewn gwaith ac angen hunanynysu?

Y Cynllun Taliadau Cymorth Profi ac Olrhain

Os ydych ar incwm isel ac os gofynnir i chi hunanynysu, efallai y cewch daliad o £500. Gellir ôl-ddyddio’r taliad:

  • i 28 Medi 2020, os ydych yn byw yn Lloegr;
  • i 23 Hydref 2020, os ydych yn byw yng Nghymru.

Byddwch yn gymwys i gael y taliad os ydych yn byw yn Lloegr neu yng Nghymru ac os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol:

  • mae gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG wedi gofyn i chi hunanynysu ac mae gennych rif ID unigryw (neu rydych wedi’ch hysbysu o gysylltiad gan ap olrhain cysylltiadau y GIG os ydych yn byw yng Nghymru);
  • rydych mewn gwaith cyflog a gall eich cyflogwr gadarnhau nad oes modd i chi weithio gartref, neu rydych yn hunangyflogedig a gallwch ddangos nad oes modd i chi redeg eich busnes heb gyswllt cymdeithasol;
  • rydych yn hawlio o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol: credyd cynhwysol, credyd treth gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, cymhorthdal incwm, credyd pensiwn neu fudd-dal tai.

Yng Nghymru, o 14 Rhagfyr 2021 gallwch hefyd hawlio’r taliad os bydd yn rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am blentyn y dywedwyd wrtho’n ffurfiol am hunanynysu. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan LLYW.CYMRU.

Os nad ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn, efallai y bydd modd i awdurdodau lleol barhau i roi taliad i chi os ydych ar incwm isel a phe bai modd i chi ddioddef caledi ariannol yn sgil methu â gweithio.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gyflwyno hawliad. Ni fydd y taliad yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch a gallwch gyflwyno hawliadau pellach os byddwch yn bodloni’r meini prawf.

Tâl Salwch Statudol

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi newidiadau i’r Tâl Salwch Statudol ar gyfer pobl mae’r Coronafeirws wedi effeithio arnynt ac sy’n gorfod hunanynysu. Bydd y Tâl Salwch Statudol yn cael ei dalu o ddiwrnod cyntaf y salwch yn hytrach nag o bedwerydd diwrnod y salwch, fel sy’n arferol. Gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol os:

  • bydd y GIG yn dweud wrthych eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sy’n dioddef o’r Coronafeirws neu sy’n dangos symptomau o’r Coronafeirws;
  • ydych yn byw ar yr un aelwyd â rhywun sy’n dioddef o’r Coronafeirws neu sy’n dangos symptomau o’r Coronafeirws;
  • oes rhywun yn eich ‘swigen gefnogaeth’ yn dioddef o’r Coronafeirws neu’n dangos symptomau o’r Coronafeirws.

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK.

Mae Tâl Salwch Statudol yn werth £95.85 yr wythnos a gellir ei dalu am hyd at 28 wythnos. I fod yn gymwys, rhaid i weithiwr ennill o leiaf £118 yr wythnos.

Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol, gallwch hawlio Credyd Cynhwysol a/neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd.

Ewch i Turn2us i gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau a sut i’w hawlio.

Hawlio budd-daliadau

Os na allwch hawlio Tâl Salwch Statudol, ond os yw’r Coronafeirws yn golygu eich bod yn rhy sâl i weithio, efallai y bydd modd i chi hawlio’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd, cyn belled â’ch bod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y ddwy neu’r tair blynedd diwethaf.

  • Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd yn cael ei dalu o ddiwrnod cyntaf eich hawliad yn hytrach nag o’r wythfed diwrnod, fel sy’n arferol.
  • Erbyn hyn, gallwch hawlio’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd ar-lein.
  • Ni fydd eich incwm na’ch cynilion chi na’ch partner yn effeithio ar eich hawliad.

Os ydych yn atebol i weithio, ond os ydych wedi colli eich swydd neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, efallai y bydd modd i chi hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith newydd, cyn belled â’ch bod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y ddwy neu’r tair blynedd diwethaf.

  • Gallwch gael y Lwfans Ceisio Gwaith newydd am hyd at chwe mis a bydd yn cael ei dalu bob pythefnos.
  • Ni fydd eich incwm na’ch cynilion chi na’ch partner/gŵr/gwraig yn effeithio ar eich hawliad.

Os na allwch gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd / Lwfans Ceisio Gwaith newydd, neu os gallwch eu cael ond os ydych angen help ariannol ychwanegol, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân am Gredyd Cynhwysol.

Pwysig: Gall Credyd Cynhwysol effeithio ar fudd-daliadau eraill

Trwy gyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn colli budd-daliadau eraill a gewch ar hyn o bryd, fel credydau treth.

Ar ôl i chi gyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol, bydd eich hawliad credyd treth yn dod i ben ac ni allwch ddychwelyd at gredydau treth. Cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ceisiwch gyngor gan gynghorydd budd-daliadau i weld a fyddwch ar eich ennill trwy hawlio Credyd Cynhwysol. Gallwch chwilio am gynghorydd budd-daliadau lleol ar wefan Turn2us.

  • Caiff Credyd Cynhwysol ei seilio ar sefyllfa eich aelwyd, felly efallai y bydd eich incwm a’ch cynilion chi neu eich partner yn effeithio ar faint a gewch.
  • Os ydych yn cyflwyno hawliad newydd am Gredyd Cynhwysol, nid oes yn rhaid i chi ffonio neb. Gellir cyflwyno hawliadau ar-lein. Pe bai angen gwirio unrhyw beth, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich ffonio’n ôl.
  • Bydd yn rhaid i chi aros am bum wythnos cyn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Gallwch gael rhagdaliad o fis a bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl wedyn.

Os byddwch angen cymorth ychwanegol i gyflwyno eich cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch ddefnyddio gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth. Ewch i Turn2us (https://www.turn2us.org.uk/) i gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau a sut i wneud cais amdanynt. Mae ganddynt gyfrifiannell budd-daliadau i’ch helpu i weld faint allech chi ei hawlio.

Hawlio budd-daliadau eisoes?

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni gofynion penodol er mwyn parhau i gael y budd-dal. Er enghraifft, chwilio am waith, cyfnodau o amser yn y gwaith neu fynychu cyfarfodydd neu asesiadau rheolaidd. Oherwydd y Coronafeirws, cafodd y gofynion hyn eu gohirio dros dro, ond maent wedi ailgychwyn erbyn hyn. Os ydych yn poeni am fynd i apwyntiad yn y cnawd oherwydd y Coronafeirws, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith.

Os yw’r Coronafeirws yn golygu na allwch fynd i’r afael â thasg, dylech ffonio’r swyddfa sy’n talu’r budd-dal i esbonio pam. Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, rhowch wybod i’ch hyfforddwr gwaith ac esboniwch beth sydd wedi digwydd yn eich dyddiadur ar-lein.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau salwch neu anabledd, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd yn rhaid i chi fynychu asesiadau wyneb yn wyneb mwyach, hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol. Bydd hyn yn berthnasol os ydych yn cael Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ac efallai Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn parhau i gael eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth hyd nes y cewch asesiad meddygol. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio eich asesu trwy ystyried eich cofnodion meddygol a thrwy siarad gyda chi ar y ffôn.

Cewch fwy o fanylion ar GOV.UK. Ymhellach, mae’r Llywodraeth wedi newid dros dro y ffordd mae’n cyfrifo Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl hunangyflogedig sydd ar incwm isel. Cysylltwch â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644 i gael mwy o wybodaeth.

Cyfrifon Cardiau Swyddfa’r Post – anfon arian parod atoch wrth dalu rhai budd-daliadau

Efallai y bydd modd trefnu i’ch taliadau ar gyfer budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu hanfon i’ch cartref ar ffurf arian parod trwy ddefnyddio gwasanaeth Danfoniad Arbennig y Post Brenhinol os:

  • oes gennych Gyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post;
  • ydych yn byw yn Lloegr;
  • na allwch adael eich cartref gan eich bod yn hunanwarchod.

Bydd y Gwasanaeth Hunanwarchod Cenedlaethol a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu a yw hyn yn addas. Os nad ydych wedi cael gohebiaeth ynglŷn â hyn, ond os ydych o’r farn y byddai’r gwasanaeth yn eich helpu, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau a gofynnwch a oes modd i chi gael eich cynnwys ar y cynllun hwn.

Cynnydd mewn budd-daliadau

O 6 Ebrill 2020, cafodd y lwfans sylfaenol ar gyfer Credyd Cynhwysol ei gynyddu £20 yr wythnos. Bydd y cynnydd hwn yn parhau tan ddiwedd mis Medi 2021 ac yn berthnasol i hawlwyr newydd a phobl sydd eisoes yn eu hawlio. Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Cafodd elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith ei chynyddu £20 yr wythnos hefyd. Mae’r cynnydd hwn wedi cael ei ymestyn am chwe mis arall a bydd yn cael ei dalu fel un taliad o £500. I allu cael y taliad, byddai angen i chi fod yn gwneud y canlynol ar 2 Mawrth 2021:

  • derbyn Credyd Treth Gwaith yn unig;
  • derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant; neu’n
  • derbyn Credyd Treth Plant a bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith ond ddim yn cael taliad Credyd Treth Gwaith am fod eich incwm yn rhy uchel.

Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael y taliad o £500 yn awtomatig erbyn diwedd Ebril 2021.

Os ydych chi’n rhentu’n breifat, mae uchafswm yr help y gallwch ei gael ar gyfer eich rhent trwy’r Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn dibynnu ar sawl ffactor, fel cyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich ardal chi a’r math o lety rydych chi ei angen. Mae cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol wedi cynyddu ym mhob rhan o’r DU. I weld beth ydyw yn eich ardal chi, ewch i wefan Directgov.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut gallai’r newidiadau hyn eich helpu, ewch i Turn2us. Mae ganddynt gyfrifiannell budd-daliadau i’ch helpu i weld faint allech chi ei hawlio.

Coronafeirws a diswyddiadau

Help os ydych chi'n cael eich diswyddo

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu defnyddio un o gynlluniau cymorth y llywodraeth i'ch helpu i gadw'ch swydd.

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, dylech wirio pa fudd-daliadau allwch chi eu hawlio. Trowch at ein hadran Y Coronafeirws a'ch incwm i gael rhagor o wybodaeth.

A yw'ch diswyddiad yn deg?

Dim ond os nad oes angen eich swydd mwyach y gallwch chi gael eich diswyddo. Mae gennych chi'r un hawliau yn ystod pandemig y coronafeirws ag y byddai gennych chi fel arfer.

Dylech gael ymgynghoriad gyda'ch cyflogwr os ydych chi'n cael eich diswyddo. Dylai'ch cyflogwr egluro beth sy'n digwydd a dylech gael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau. Os bydd 20 neu fwy o weithwyr yn cael eu diswyddo, gall eich cyflogwr gynnal yr ymgynghoriad hwn drwy gynrychiolydd, fel cynrychiolydd undeb. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Dylai'ch cyflogwr fod yn deg wrth benderfynu pwy i ddiswyddo. Gallai, er enghraifft, ofyn am wirfoddolwyr neu wirio cofnodion disgyblu. Mae rhai pethau na ddylai chwarae unrhyw ran yn y broses o'ch diswyddo, fel eich oedran a'ch rhyw; gallwch weld rhestr ar wefan gov.uk.

Os nad ydych chi'n credu bod eich cyflogwr wedi bod yn deg, cysylltwch ag ACAS sy'n cynnig cyngor diduedd ar eich hawliau yn y gweithle.

Efallai y cewch gynnig 'cyflogaeth amgen addas' yn eich sefydliad neu gwmni cysylltiedig. Mae gennych hawl i gyfnod prawf o bedair wythnos yn y swydd amgen. Does dim rhaid i chi gymryd y swydd os nad ydych chi'n credu ei bod yn addas, ond efallai y byddwch yn colli'ch hawl i dâl dileu swydd os byddwch chi'n gwrthod cynnig o swydd amgen yn afresymol. Gweler gwefan ACAS i gael rhagor o wybodaeth am gael cynnig swydd amgen gan eich cyflogwr. Gallai'ch diswyddiad fod yn ddiswyddiad annheg os oes gan eich cyflogwr swydd amgen addas ac nad yw'n ei chynnig i chi.

Tâl dileu swydd

Os ydych chi wedi bod gyda'ch cyflogwr presennol am 2 flynedd neu fwy, byddech fel arfer yn cael tâl diswyddo statudol. Dylech dderbyn:

  • cyflog hanner wythnos am bob blwyddyn o gyflogaeth hyd at 22 oed;
  • cyflog un wythnos am bob blwyddyn rhwng 22 a 40 oed; a
  • chyflog un wythnos a hanner am bob blwyddyn dros 41 oed.

Mae hyn hyd at uchafswm o 20 mlynedd o waith.

Os yw'ch cyflog diweddar wedi bod yn is am eich bod chi wedi bod ar 'ffyrlo', dylai'ch tâl dileu swydd fod yn seiliedig ar eich cyflog cyn ffyrlo.

Uchafswm y tâl diswyddo statudol y gallwch ei gael yw £16,140. Os cawsoch eich diswyddo cyn 6 Ebrill 2020, bydd y symiau hyn yn is.

Gallwch gyfrifo'ch tâl diswyddo statudol yma.

Os nad ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi talu'r swm cywir o dâl dileu swydd, cysylltwch ag ACAS am fwy o help.

Hysbysiad diswyddo

Os cewch eich diswyddo, ni ddylai'ch swydd ddod i ben ar unwaith, dylech gael cyfnod rhybudd â thâl. Er y gall eich cyflogwr roi mwy o rybudd i chi, dyma'r cyfnodau rhybudd diswyddo statudol:

  • o leiaf wythnos o rybudd os ydych chi wedi cael eich cyflogi rhwng mis a 2 flynedd;
  • wythnos o rybudd am bob blwyddyn os ydych chi wedi cael eich cyflogi rhwng 2 a 12 mlynedd; neu
  • 12 wythnos o rybudd os ydych chi wedi cael eich cyflogi am 12 mlynedd neu fwy.

Oni bai eich bod i ffwrdd o'r gwaith, dylech dderbyn eich tâl arferol wrth weithio'ch cyfnod rhybudd. Mae gan ACAS wybodaeth fanylach am gyfnodau rhybudd a'r tâl y dylech ei dderbyn.

Gall eich cyflogwr roi 'taliad yn lle rhybudd’. Dyma lle'r ydych chi'n cael eich holl rybudd wedi'i dalu ar unwaith ac mae'ch swydd yn dod i ben ar unwaith. Neu gall eich cyflogwr eich rhoi chi ar absenoldeb garddio, mae hyn yn golygu y cewch eich talu fel arfer ond nad oes rhaid i chi ddod i'r gwaith.

Gwiriwch eich contract a siaradwch â'ch cyflogwr os nad ydych chi'n siŵr pa gyfnod rhybudd y dylech ei gael.

Dod o hyd i swydd newydd

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymateb Cyflym os ydych chi'n amau y byddwch yn cael eich diswyddo neu hyd at 13 wythnos ar ôl i chi gael eich diswyddo. Ymhlith pethau eraill, gall helpu gydag ysgrifennu CV, dod o hyd i'r hyfforddiant cywir a chostau teithio.

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymateb Cyflym drwy e-bostio rrs.enquiries@dwp.gov.uk.

Cyflogwyr ansolfent

Efallai fod eich cyflogwr yn ansolfent, sy'n golygu nad yw'n gallu talu ei ddyledion. Os yw'ch cyflogwr yn ansolfent ac yn eich diswyddo, efallai na fydd yn gallu talu'r arian y mae gennych chi hawl iddo.

Efallai y gallwch wneud cais am dâl dileu swydd a thaliadau cysylltiedig eraill gan y Llywodraeth, drwy'r Gwasanaeth Taliadau Diswyddo (RPS).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau os yw eich cyflogwr yn ansolfent ar wefan GOV.UK. Mae yna ganllawiau ar gael hefyd os cawsoch eich rhoi ar ffyrlo yna colli eich swydd gan fod eich cyflogwr yn ansolfent.

Y Coronafeirws a’ch cartref

Help gyda’ch morgais

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau’n ymwneud â sut i gyflwyno cais am ‘wyliau rhag talu’ os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch ac os ydych yn cael trafferth i dalu eich morgais. Mae’r canllawiau diweddaraf yn berthnasol o 20 Tachwedd 2020.

  • Os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch ac os nad ydych wedi cael gwyliau rhag talu morgais eto, mae gennych hawl i gael gwyliau rhag talu am gyfnod o chwe mis.
  • Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu yn barod, neu os ydych ar ganol gwyliau rhag talu ar hyn o bryd, bydd modd i chi ymestyn y cyfnod am chwe mis.

Mae gennych tan 31 Mawrth 2021 i ofyn i’ch benthyciwr morgais am wyliau rhag talu. Ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd modd i chi ymestyn eich gwyliau rhag talu presennol hyd at 31 Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, ni allwch fynd y tu hwnt i’r terfyn chwe mis a ganiateir yn ôl canllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Ni fydd y gwyliau rhag talu yn cael ei gofnodi ar eich ffeil credyd; ond efallai y bydd modd i ddarpar fenthycwyr ddarganfod trwy ffyrdd eraill na wnaethoch dalu’r taliadau hyn fel y cytunwyd yn wreiddiol, er enghraifft trwy edrych ar eich cyfriflenni banc.

Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu yn y gorffennol, gyda’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben bellach, ac os gallwch fforddio talu eich taliadau morgais unwaith eto, gwnewch hynny. Hefyd, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch benthyciwr i drafod sut ydych am dalu’r taliadau a fethwyd.

Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu eisoes am gyfnod o chwe mis, ac os ydych yn dal i fethu â fforddio’r taliadau, cysylltwch â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl. Trafodwch eich sefyllfa a gofynnwch pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer atal taliadau dros dro. Gofynnwch i’ch benthyciwr sut bydd hyn yn effeithio ar eich ffeil credyd.

Er bod modd i fenthycwyr barhau i gymryd camau adfeddu, mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi dweud na ddylai cwmnïau fynd ati i adfeddu eiddo cyn 1 Ebrill 2021.

Nid yw hyn yn golygu y bydd eich benthyciwr yn cymryd camau cyfreithiol. Fodd bynnag, os bydd eich benthyciwr yn rhoi camau meddiant newydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, neu’n gofyn i’r llys ailddechrau hawliad a ohiriwyd o’r blaen oherwydd y Coronafeirws, mae yna reolau ychwanegol y bydd yn rhaid iddo eu dilyn. I gael mwy o wybodaeth, gweler ein taflen ffeithiau ôl-ddyledion morgeisi.

Os ydych wedi cael ffurflenni hawlio meddiant, os oes camau cyfreithiol yn cael eu bygwth neu os ydych angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â:

  • Shelter ar 0808 800 4444 os ydych yn byw yn Lloegr; neu
  • Shelter Cymru ar 0800 049 5495 os ydych yn byw yng Nghymru.

Ceir gwybodaeth hefyd ar eu gwefannau.

Cwsmeriaid Cymorth i Brynu

Lloegr

Gallwch wneud cais am wyliau rhag talu tan 31 Mawrth 2021 os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch ac os ydych yn cael trafferth i dalu eich benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu. Ar wefan Cymorth i Brynu ceir Ffurflen Gais Gwyliau rhag Talu y gallwch ei defnyddio.

  • Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu yn barod, efallai y bydd modd i chi ofyn am dri mis arall.
  • Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am wyliau arall rhag talu os ydych eisoes wedi cael dau gyfnod o wyliau rhag talu sy’n gyfanswm o chwe mis.

Bydd y llog yn parhau i gael ei ychwanegu at eich benthyciad ecwiti yn ystod gwyliau rhag talu.

Pan ddaw’r cyfnod gwyliau rhag talu y cytunwyd arno i ben, bydd y taliadau’n dychwelyd yn awtomatig i’r swm misol arferol. Bydd angen i chi ffonio Cymorth i Brynu ar 0345 848 0236 i drafod sut ydych am dalu’r taliadau a fethwyd.

Cymru

Os ydych yn poeni am yr ad-daliadau, ffoniwch Cymorth i Brynu (Cymru) ar 0800 0937 937 i drafod eich sefyllfa.

Help gyda’ch rhent

Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cyfreithiau dros dro newydd i amddiffyn tenantiaid. Rhwng 26 Mawrth 2020 a 30 Medi 2020, roedd modd i landlordiaid roi rhybudd o dri mis o leiaf cyn y gallent gymryd camau cyfreithiol i’ch troi allan. Mae hyn wedi cael ei ddiweddaru bellach.

  • Yng Nghymru, mae rheoliadau newydd yn diweddaru’r cyfnod rhybudd mae’n rhaid i landlordiaid ei roi cyn dod â’r rhan fwyaf o denantiaethau i ben. Rhwng 29 Awst 2020 a 31 Mawrth 2021, yn y rhan fwyaf o achosion rhaid i landlordiaid roi chwe mis o rybudd.
  • Yn Lloegr, mae rheoliadau newydd yn diweddaru’r cyfnod rhybudd mae’n rhaid i landlordiaid ei roi cyn dod â’r rhan fwyaf o denantiaethau i ben. Rhwng 29 Awst 2020 a 31 Mawrth 2021, yn y rhan fwyaf o achosion pan fo llai na chwe mis o ôl-ddyledion rhenti yn ddyledus, rhaid i landlordiaid roi chwe mis o rybudd. Rhwng 27 Mawrth 2020 a 20 Medi 2020, fe wnaeth gwasanaeth y llys yng Nghymru a Lloegr ohirio (atal) camau meddiant oherwydd y Coronafeirws. Mae’r gohirio dros dro hwn wedi dod i ben erbyn hyn. Nid yw hyn yn golygu y bydd eich landlord yn dechrau cymryd camau cyfreithiol.

Os na allwch fforddio talu eich rhent neu os oes gennych ôl-ddyledion yn barod, cysylltwch â’ch landlord cyn gynted â phosibl i drafod eich sefyllfa.

Os bydd eich landlord yn rhoi camau meddiant newydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, neu’n gofyn i’r llys ailddechrau hawliad a ohiriwyd o’r blaen oherwydd y Coronafeirws, mae yna reolau ychwanegol y bydd yn rhaid iddo eu dilyn. I gael mwy o wybodaeth, gweler ein taflen ffeithiau ôl-ddyledion rhenti.

Yn Lloegr, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno cyfraith dros dro sy’n golygu na fydd pobl yn cael eu troi allan gan feilïaid, yn y rhan fwyaf o achosion, tan 31 Mawrth 2021 ar y cynharaf. Ceir rhai eithriadau, er enghraifft pan fydd y llys wedi gwneud gorchymyn:

  • oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol; neu
  • roedd ôl-ddyledion rhent a oedd yn dod i gyfanswm o o leiaf chwe mis o rent.

Os yw’ch landlord wedi defnyddio’r broses adran 21 yn unig, allwch chi ddim cael eich troi allan gan feilïaid y llys tan ar ôl 31 Mawrth 2021.

Dim ond ar gyfer tenantiaethau byrddaliadol sicr y gellir defnyddio’r broses adran 21. Does dim angen i’ch landlord roi rheswm i chi, fel ôl-ddyledion rhent, i ofyn am yr eiddo yn ôl. Fodd bynnag, rhaid i’ch landlord ddilyn rheolau penodol. Hefyd, bydd angen iddo gael gorchymyn llys a defnyddio beilïaid y llys i’ch troi chi allan. Edrychwch ar eich gwaith papur. Bydd yn rhoi’r rheswm y mae’r landlord wedi’i roi dros gael yr eiddo’n ôl.

Yng Nghymru, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cyfraith dros dro sy’n golygu na fydd pobl yn cael eu troi allan gan feilïaid, yn y rhan fwyaf o achosion, tan 31 Mehefin 2021. Mae rhai eithriadau, fel lle mae’r llys wedi gwneud gorchymyn oherwydd tresmasu, trais domestig, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans.

Pe bai beili yn cysylltu â chi, a phe bai’n bygwth eich troi allan, cysylltwch â Shelter i gael help.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol gyda help tuag at gostau tai, efallai y bydd modd i chi hawlio Taliad Disgresiwn at Gostau Tai. Gall Taliad Disgresiwn at Gostau Tai roi arian ychwanegol i chi tuag at dalu eich rhent. Dylech allu ei hawlio ar-lein, gwiriwch gyda’ch cyngor lleol.

Yng Nghymru, mae’r Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth bellach ar gael. Mae’r cynllun hwn yn cynnig benthyciadau i rai tenantiaid yn y sector preifat yng Nghymru ar gyfer talu ôl-ddyledion rhenti sydd wedi pentyrru ers 1 Mawrth 2020. I weld a ydych yn gymwys, gweler Undebau Credyd Cymru.

Os na allwch fforddio talu eich rhent neu os oes gennych ôl-ddyledion yn barod, cysylltwch â’ch landlord cyn gynted â phosibl i drafod eich sefyllfa. Os na fydd eich landlord yn cynnig rhyw lawer o gymorth, cysylltwch â:

  • Shelter ar 0808 800 4444 os ydych yn byw yn Lloegr; neu
  • Shelter Cymru ar 0800 049 5495 os ydych yn byw yng Nghymru.

Y Coronafeirws a’ch biliau

Help gyda’r Dreth Gyngor

Mae Cynghorau yn Lloegr wedi cael canllawiau gan y Llywodraeth ynglŷn â sut dylent ddefnyddio arian newydd i helpu aelwydydd yn eu hardal.

Os ydych yn cael help gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd (a elwir hefyd yn Gymorth y Dreth Gyngor), ac os ydych mewn oedran gweithio, efallai y bydd bil eich treth gyngor ar gyfer 2020-2021 yn gostwng £150.

  • Er mwyn bod yn gymwys, ni fydd yn rhaid i’r Coronafeirws fod wedi effeithio arnoch yn uniongyrchol
  • Ni fydd yn rhaid i chi wneud cais i’r cyngor am y gostyngiad ychwanegol hwn. Mae gan Gynghorau fanylion eisoes am aelwydydd sy’n cael help trwy gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a dylent gysylltu â chi’n uniongyrchol.

Bil eich treth gyngor ar gyfer 2020-2021

Ar gyfer blwyddyn dreth 2020-2021, mae rhai cynghorau’n newid y misoedd maent yn casglu taliadau’r dreth gyngor. Yn hytrach na chasglu taliadau rhwng Ebrill 2020 ac Ionawr 2021, mae rhai cynghorau’n casglu taliadau rhwng Mehefin 2020 a Mawrth 2021. Felly, os ydych fel arfer yn talu eich treth gyngor mewn 10 o randaliadau, y misoedd pan na fyddwch yn talu’r dreth gyngor yw Ebrill a Mai 2020, yn hytrach na Chwefror a Mawrth 2021. Gwiriwch gyda’ch cyngor i weld a yw’n cyflwyno’r newid hwn.

Os nad yw’r cyngor yn cyflwyno’r newid hwn, ac os byddwch yn cael trafferth i dalu eich treth gyngor, cysylltwch â’ch cyngor i esbonio.

Efallai y bydd cynghorau’n rhoi help ychwanegol os ydych yn delio ag amgylchiadau eithriadol.

Help gan eich darparwr ynni

Mae darparwyr ynni wedi cytuno y bydd yr arfer o ddatgysylltu mesuryddion credyd yn cael ei gohirio’n llwyr. Hefyd, os ydych yn hunanynysu ac os na allwch ychwanegu at eich mesurydd rhagdalu, gallwch wneud y canlynol:

  • enwebu trydydd person ar gyfer ychwanegiadau credyd;
  • trefnu bod cronfa ddewisol yn cael ei hychwanegu at eich credyd;
  • trefnu bod cerdyn atodol wedi’i lwytho ymlaen llaw yn cael ei anfon atoch, er mwyn sicrhau na fydd eich cyflenwad yn cael ei dorri.

Os ydych yn cael trafferth i reoli ad-daliadau i’ch darparwr ynni, cysylltwch ag ef i weld pa help y gall ei gynnig. Mae canllawiau newydd yn golygu y gall fod yn bosibl ailasesu, lleihau neu ohirio eich ad-daliadau a’ch taliadau.

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK.

Os ydych yn berson agored i niwed, gallwch ofyn i’ch darparwr ynni eich rhoi ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Gall y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth priodol rydych ei angen. Gallwch weld pwy y gellir ei ystyried fel person agored i niwed, ynghyd â pha help sydd ar gael, trwy edrych ar Ofgem.

Help gan eich cwmni dŵr

Mae cwmnïau dŵr wedi cytuno i helpu cwsmeriaid mewn gwahanol ffyrdd oherwydd argyfwng y Coronafeirws. Mae Water UK wedi dweud bod cwmnïau dŵr yn:

  • rhoi’r gorau i gyflwyno ceisiadau newydd i’r llys yn ymwneud â biliau heb eu talu yn ystod y cyfyngiadau presennol, ac yn rhoi’r gorau i gynnal ymweliadau gorfodi;
  • cynnig gwyliau rhag talu i bawb sydd mewn anawsterau ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws;
  • addasu cynlluniau talu ar frys er mwyn helpu gyda newidiadau annisgwyl yn sefyllfa ariannol aelwydydd.

Bydd gan bob cwmni dŵr ei gynllun ei hun. Cysylltwch â’ch cwmni’n uniongyrchol i weld pa help y gellir ei gynnig.

Ceir rhestr lawn o’r cymorth posibl, ynghyd â mwy o fanylion, ar wefan Water UK.

Help gan eich darparwr ffôn symudol neu eich darparwr band eang

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau band eang a ffonau symudol wedi cyflwyno ystod o fesurau i geisio helpu.

  • Bydd darparwyr yn helpu os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil. Byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn deg. Os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil, cysylltwch â nhw.
  • Maent wedi ymrwymo i gael gwared â throthwyon data ar wasanaethau band eang sefydlog. Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, holwch eich darparwr.
  • Fe allech yn awr gael cynnig pecyn newydd i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad. Mae rhai o’r pecynnau hyn yn cynnwys data ychwanegol am bris rhad a galwadau am ddim o ffonau cartref a ffonau symudol. Cysylltwch â’ch darparwr i weld a allech elwa ar hyn.

Help gyda’ch trwydded teledu

Mae TV Licensing wedi cymryd camau i helpu os ydych yn cael trafferth i dalu eich trwydded teledu.

  • Os na allwch barhau â’ch taliadau, ffoniwch nhw ar 0300 555 0300 i weld sut gallant helpu.
  • Nid oes llythyrau ôl-ddyledion yn cael eu hanfon mwyach at bobl sy’n hwyr gyda’u taliadau.
  • Mae ymweliadau casglu gan swyddogion wedi dod i ben hefyd.
  • Os ydych mewn caledi ariannol ac os ydych angen dod â’ch taliadau Debyd Uniongyrchol i ben ar frys, ffoniwch nhw ar 0300 790 6068. Os na allwch gael ateb, canslwch y Debyd Uniongyrchol gyda’ch banc. Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw daliadau a fethwyd yn nes ymlaen.

Mae gan TV Licensing lai o staff yn ateb galwadau ar hyn o bryd, felly bydd yn anos i chi gael siarad gyda rhywun. Os ydych angen gwneud taliad, mae yna ffyrdd eraill o dalu.

Y Coronafeirws a’ch dyledion

Cardiau credyd, cardiau siopau, benthyciadau personol, gorddrafftiau a chatalogau

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau’n ymwneud â sut i gyflwyno cais am wyliau rhag talu os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch ac os ydych yn cael trafferth i dalu biliau eich cardiau credyd. Mae’r canllawiau diweddaraf yn berthnasol o 25 Tachwedd 2020.

  • Os yw’r Coronafeirws wedi effeithio arnoch ac os nad ydych wedi cael gwyliau rhag talu eto, mae gennych hawl i gael gwyliau rhag talu am gyfnod o chwe mis.
  • Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu yn barod, neu os ydych ar ganol gwyliau rhag talu ar hyn o bryd, bydd modd i chi ymestyn y cyfnod hyd at gyfanswm o chwe mis.

Mae gennych tan 31 Mawrth 2021 i ofyn i’ch benthyciwr am wyliau rhag talu. Ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd modd i chi ymestyn eich gwyliau rhag talu presennol hyd at 31 Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, ni allwch fynd y tu hwnt i’r terfyn chwe mis a ganiateir yn ôl canllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu.

Ni fydd y gwyliau rhag talu yn cael ei gofnodi ar eich ffeil credyd; ond efallai y bydd modd i ddarpar fenthycwyr ddarganfod trwy ffyrdd eraill na wnaethoch dalu’r taliadau hyn fel y cytunwyd yn wreiddiol, er enghraifft trwy edrych ar eich cyfriflenni banc.

Os yw eich gwyliau rhag talu wedi dod i ben, ac os gallwch fforddio gwneud taliadau rheolaidd unwaith eto, gwnewch hynny. Hefyd, bydd yn rhaid i chi drafod â’ch benthyciwr sut ydych am dalu’r taliadau a fethwyd.

Os ydych eisoes wedi cael gwyliau rhag talu am gyfnod o chwe mis, ac os ydych yn dal i fethu â fforddio’r taliadau, cysylltwch â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl. Trafodwch eich sefyllfa a gofynnwch pa opsiynau sydd ar gael. Gofynnwch i’ch benthyciwr sut bydd hyn yn effeithio ar eich ffeil credyd.

Yn ôl canllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol:

  • dylai eich benthyciwr ystyried eich amgylchiadau wrth drafod trefniant ad-dalu;
  • ni ddylai eich benthyciwr roi pwysau arnoch i ad-dalu eich dyled mewn cyfnod afresymol o fyr;
  • dylai eich benthyciwr adnabod amgylchiadau bregus ac ymateb i anghenion cwsmeriaid agored i niwed.

I gael mwy o wybodaeth, gweler dogfen yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol: Consumer Credit and coronavirus: Tailored support for clients.

Cynllun Talu Covid (CVPP) StepChange

Os ydych eisoes wedi cael gwyliau rhag talu am gyfnod o chwe mis, ond os ydych yn dal i fethu â fforddio eich taliadau llawn, efallai y dylech ystyried Cynllun Talu Covid. Cysylltwch â ni i gael cyngor.

Gorddrafftiau

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi cadarnhau ei fod yn disgwyl i fanciau gysylltu â chwsmeriaid sydd â gorddrafftiau ac sydd wedi cael cymorth dros dro i weld a ydynt yn dal i fod angen cymorth. Os ydych angen mwy o gymorth, neu os ydych yn gofyn i’ch banc am help am y tro cyntaf, dylai’r banc wneud y canlynol:

  • darparu cymorth wedi’i deilwra, fel lleihau’r llog neu ei ddileu’n llwyr;
  • cytuno ar raglen o ostyngiadau fesul cam yn nherfyn y gorddrafft;
  • eich cynorthwyo i leihau eich defnydd o’r gorddrafft trwy drosglwyddo’r ddyled.

Ni ddylai eich banc leihau eich terfyn credyd na gohirio neu ddileu eich cyfleuster gorddrafft pe bai’r lleihau, y gohirio neu’r dileu yma’n achosi caledi ariannol i chi.

Dyledion banc o fath arall

Os ydych yn cael trafferth i dalu dyledion banc ansicredig nad yw mesurau newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn berthnasol iddynt, gallwch barhau i gysylltu â’ch banc i esbonio eich sefyllfa. Bydd pob banc yn mynd ati fesul achos i ystyried pa help y gall ei gynnig. Edrychwch ar wefan y banc i weld pa help sydd ar gael. Hefyd, gallwch ffonio eich banc, ond byddwch yn ymwybodol y gallech orfod disgwyl am beth amser cyn cael ateb.

Gofynnwch i’ch benthyciwr sut bydd unrhyw drefniant y cytunwch arno yn effeithio ar eich ffeil credyd.

Peidiwch â throi at ddulliau eraill o gael credyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch dalu’r arian yn ôl.

Os oes gennych ddyledion na allwch eu fforddio mwyach, cysylltwch â ni i gael cyngor. Tra byddwch yn aros i gael cyngor, gallwch anfon llythyr at eich credydwyr yn gofyn iddynt ohirio cymryd unrhyw gamaun ymwneud ach cyfrif oherwydd y Coronafeirws.

Benthyciadau diwrnod cyflog, Prynu nawr: talu wedyn, Rhentu i brynu, Gwystlwyr a Chyllid cerbydau

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi cyhoeddi mesurau, fel rhewi taliadau, i helpu cwsmeriaid sy’n cael anawsterau ariannol dros dro oherwydd y Coronafeirws. Gallwch wneud cais am y cymorth a nodir isod o 25 Tachwedd 2020.

Os ydych eisoes wedi cael rhewi eich taliadau fel y nodir isod, neu os ydych yn disgwyl y byddwch yn cael anawsterau ariannol hirdymor, dylech gysylltu â’ch benthyciwr yn awr i drafod eich sefyllfa a pha gymorth sydd ar gael. Yn ôl canllawiau presennol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, disgwylir i fenthycwyr wneud y canlynol:

  • darparu cymorth wedi’i deilwra sy’n adlewyrchu eich amgylchiadau unigol;
  • cynnig ystod o opsiynau tymor byrrach a thymor hwy;
  • peidio â rhoi pwysau arnoch i ad-dalu eich dyled mewn cyfnod afresymol o fyr;
  • rhoi trefniant ad-dalu fforddiadwy ar waith lle ystyrir eich sefyllfa ariannol ehangach, yn cynnwys dyledion eraill a chostau byw hanfodol;
  • gohirio, lleihau, ildio neu ganslo unrhyw log, ffioedd neu daliadau er mwyn atal eich balans rhag cynyddu’n gyflym ar ôl cytuno ar drefniant ad-dalu.

Dylai benthycwyr fod yn glir ynglŷn â sut bydd unrhyw drefniadau ad-dalu yn cael eu cofnodi ar eich ffeil credyd.

Benthyciadau diwrnod cyflog

Os oes gennych fenthyciad diwrnod cyflog, mae argaeledd y trefniant rhewi taliadau wedi cael ei ymestyn, ond rhaid i chi wneud cais cyn 31 Mawrth 2021.

  • Os nad ydych wedi elwa ar gael rhewi eich taliadau eto, dylai eich benthyciwr ganiatáu i chi gael rhewi eich taliadau am fis.
  • Ni fydd unrhyw log yn cael ei ychwanegu yn ystod y cyfnod rhewi taliadau.
  • Ni fydd y trefniant rhewi taliadau yn effeithio ar eich ffeil credyd.

Os ydych wedi cael rhewi eich taliadau eisoes, ond os nad ydych yn gallu talu’r taliadau a ohiriwyd, darllenwch ein taflen ffeithiau benthyciadau diwrnod cyflog a chysylltwch â ni i gael cyngor.

Dyledion prynu nawr: talu wedyn, rhentu i brynu a gwystlwyr

Os ydych wedi benthyg trwy ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau hyn, mae argaeledd gwyliau rhag talu wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Gorffennaf 2021, ond rhaid i chi wneud cais cyn 31 Mawrth 2021.

  • Os ydych yn gymwys, gallwch ofyn am wyliau rhag talu am gyfnod o hyd at chwe mis i gyd. Gallwch wneud cais am wyliau rhag talu am hyd at dri mis ar y tro.
  • Os ydych wedi elwa ar wyliau rhag talu eisoes, gallwch wneud cais am wyliau pellach hyd at gyfanswm o chwe mis.
  • Ni fydd y trefniant rhewi taliadau yn effeithio ar eich ffeil credyd.
  • Bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu yn ystod y gwyliau rhag talu.

Ar ôl i’r gwyliau rhag talu ddod i ben, dylech allu ad-dalu’r taliadau a ohiriwyd mewn dull fforddiadwy.

Trefniadau gwystlwyr

Os ydych wedi cael caniatâd i gymryd gwyliau rhag talu, dylai’r cwmni ymestyn y ‘cyfnod prynu’n ôl’ ar gyfer yr eitem honno. Os yw’r cyfnod prynu’n ôl eisoes wedi dod i ben, dylai’r cwmni gytuno i beidio â gwerthu’r eitem a dylai ohirio unrhyw werthiant yn ystod y cyfnod gohirio taliad.

Os ydych yn cael anawsterau talu oherwydd y coronafeirws ond heb gael gohiriad taliad, gallai’r cwmni barhau i ystyried ymestyn y cyfnod adbrynu. Os yw’r cyfnod adbrynu wedi dod i ben, gallai’r cwmni barhau i gytuno i beidio â gwerthu’r eitem a gohirio unrhyw werthiant. Gall y cwmni gymryd y camau hyn os yw’n credu ei bod hi’n debygol y byddwch yn gallu adfer yr eitem.

Prynu nawr: talu wedyn

Os ydych wedi cael caniatâd i gymryd gwyliau rhag talu, ac os yw eich cytundeb o fewn ei gyfnod ‘di-log’, dylid ymestyn hyn i gwmpasu cyfnod y gwyliau rhag talu.

Rhentu i brynu

Os ydych wedi cael caniatâd i gymryd gwyliau rhag talu, dylai cwmnïau barhau i ganiatáu i chi ddibynnu ar yswiriannau a gwarantiadau yn ystod cyfnod y gwyliau rhag talu neu’r cytundeb estynedig.

Cyllid cerbydau

Os oes gennych gyllid cerbyd, mae argaeledd gwyliau rhag talu wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Gorffennaf 2021, ond rhaid i chi wneud cais cyn 31 Mawrth 2021.

  • Os oeddech yn talu eich taliadau ar amser cyn i’r Coronafeirws achosi anawsterau dros dro i chi, dylech gael gwyliau rhag talu am gyfnod o dri mis os mai dyma’r opsiwn gorau i chi. Efallai y gofynnir i chi dalu ernes o £1.
  • Os ydych wedi cael gwyliau rhag talu eisoes am gyfnod o dri mis, gallwch ofyn am gyfnod arall o wyliau rhag talu o hyd at dri mis. Gallwch barhau i ofyn am ohirio eich taliadau am yr eildro ar ôl 31 Mawrth 2021, ond ni ellir gohirio eich taliadau y tu hwnt i 31 Gorffennaf 2021.
  • Ni ddylai hyn effeithio ar eich ffeiliau credyd oni bai y byddwch angen mwy o help, er enghraifft, os bydd yn rhaid rhewi’r llog ar y taliadau. Ond efallai y bydd modd i ddarpar fenthycwyr ddarganfod trwy ffyrdd eraill na wnaethoch dalu’r taliadau hyn fel y cytunwyd yn wreiddiol, er enghraifft trwy edrych ar eich cyfriflenni banc.
  • Fel arfer, ni ddylai eich benthyciwr adfeddu nwyddau os yw’n gwybod eich bod angen eu defnyddio ac os yw’n gwybod mai’r Coronafeirws sydd wedi achosi anawsterau ariannol dros dro i chi. Bydd y canllawiau hyn ynghylch adfeddu ar waith tan 31 Ionawr 2021. O 31 Ionawr, bydd benthycwyr yn cael adfeddu nwyddau a cherbydau fel dewis olaf yn unig.

Beilïaid

Mae’r rheolau mae’n rhaid i feilïaid yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â nhw wedi cael eu diweddaru oherwydd y Coronafeirws. Tra bydd cyfyngiadau cyfnodau clo’r Coronafeirws ar waith, ni chaiff beilïaid gymryd rheolaeth o nwyddau mewn eiddo preswyl nac ar briffyrdd.

Gall beilïaid barhau i fynd i mewn i gartrefi pobl a chymryd rheolaeth o nwyddau o 3 Rhagfyr 2020.

Gwrandawiadau llysoedd ynadon

Mae llysoedd ynadon yn cyfyngu ar nifer yr achosion a gaiff eu cynnal. Os ydych wedi cael cyfarwyddyd i fynd i wrandawiad mewn llys ynadon, mae’n bwysig i chi fynd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi siwrnai ddiangen, awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r llys sy’n delio â’ch achos i holi a yw’r gwrandawiad yn mynd yn ei flaen.

Os oes gennych gwestiynau’n ymwneud â dirwy llys ynadon sydd heb ei thalu, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth (NCES) trwy anfon e-bost at NCESBCT@justice.gov.uk neu ffonio 0300 123 9252.

Budd-daliadau a ordalwyd

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi’r gorau i adennill y budd-daliadau canlynol am gyfod o dri mis:

  • budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau a ordalwyd;
  • dyledion credydau treth a reolir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau; a
  • benthyciadau cronfeydd cymdeithasol.

Ailddechreuodd y gwaith o gasglu’r gordaliadau hyn ym mis Gorffennaf 2020.

Os ydych wedi ad-dalu trwy ddebyd uniongyrchol yn y gorffennol, byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn i’r ad-daliadau ailgychwyn. Os ydych wedi stopio’r ad-daliadau gyda’ch banc, efallai y bydd yn rhaid i chi aildrefnu’r ad-daliadau eto o fis Gorffennaf 2020. Os ydych yn ansicr, siaradwch â llinell Rheoli Dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 916 0647.

Os ydych wedi ad-dalu trwy gyfrwng eich cyflog yn y gorffennol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch i weld a oes modd trefnu cynllun ad-dalu amgen. Os ydych wedi ad-dalu trwy gyfrwng eich budd-daliadau yn y gorffennol, byddwch yn cael eich hysbysu trwy lythyr fod yr ad-daliadau’n ailgychwyn, neu trwy gyfrwng eich dyddiadur Credyd Cynhwysol.

Hefyd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ailddechrau defnyddio dulliau adennill eraill, fel casglwyr dyledion.

Os ydych yn dioddef caledi ariannol ac yn credu y byddwch yn cael trafferth i fforddio’r ad-daliadau roeddech chi’n arfer eu talu, siaradwch â llinell Rheoli Dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 916 0647.

Cynllun Didynnu Benthyciadau Cymwys

Fe wnaeth ad-daliadau ar gyfer y Cynllun Didynnu Benthyciadau Cymwys ailddechrau ym mis Gorffennaf 2020. Byddwch yn cael eich hysbysu trwy lythyr ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth. Fel arfer, mae’r benthyciadau hyn yn digwydd trwy undebau credyd neu sefydliadau nid-er-elw eraill.

Y Coronafeirws: cymorth ychwanegol

Gwiriwch eich polisïau yswiriant

Gwiriwch a oes gennych bolisi yswiriant a all gynyddu eich incwm neu dalu taliadau ar gyfer eitemau hanfodol, er enghraifft eich morgais. Cysylltwch â’r yswiriwr i weld pa help y gallech ei gael. Efallai fod gennych:

  • yswiriant diogelu taliadau;
  • yswiriant diogelu taliadau morgais;
  • yswiriant ar gyfer damweiniau, salwch neu ddiweithdra.

Eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer unigolion a gaiff eu hystyried fel bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Yn Lloegr, os cewch eich ystyried fel bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi. Os byddwch yn gymwys, gallwch gofrestru ar wefan GOV.UK.

Gall y cymorth sydd ar gael eich helpu i wneud cais am slotiau danfon nwyddau â blaenoriaeth gan archfarchnadoedd. Dywedwch wrth eich cyngor pa gymorth rydych ei angen i ddilyn y canllawiau newydd.

Yng Nghymru, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno canllawiau ar gyfer unigolion a gaiff eu hystyried fel unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Yn y canllawiau ceir rhestr o sefydliadau a all eich helpu mewn gwahanol feysydd, er enghraifft iechyd meddwl a chyflogaeth.

Prydau ysgol am ddim

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac os yw’n gorfod bod gartref oherwydd rhesymau’n ymwneud â’r Coronafeirws, dylai’r ysgol wneud yn siŵr ei bod yn rhoi parseli bwyd i chi. Yn ystod pandemig y Coronafeirws, mae’n bosibl y bydd y cynllun prydau ysgol am ddim yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgol yn ogystal ag yn ystod y tymor. Siaradwch gydag ysgol eich plentyn i gadarnhau bod hyn yn cael ei wneud i chi. Cewch fwy o fanylion ar wefan GOV.UK.

Banciau bwyd

Os ydych yn cael trafferth i brynu bwyd, mae nifer o fanciau bwyd yn aros ar agor i gynorthwyo pobl yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae niferoedd y sesiynau’n cael eu lleihau a bydd parsel bwyd wedi’i ragbecynnu’n cael ei roi i chi neu’n cael ei anfon atoch. Gallwch ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol trwy yr Trussell Trust.

Grantiau

Mae nifer o elusennau’n cynnig grantiau nad oes angen eu talu’n ôl i bobl sy’n cael trafferthion ariannol. I weld a oes yna grantiau a allai fod o help i chi, ewch i Turn2us.

Cynlluniau cymorth gan gynghorau

Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch wneud cais i’r cynllun cymorth lles. Mae pob cyngor yn rhedeg ei gynllun ei hun. Gellir rhoi talebau i helpu i dalu am bethau hanfodol o ddydd i ddydd, fel pryd bwyd poeth, dodrefn neu offer ar gyfer y cartref. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a all ef elwa ar y cynllun.

Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am Daliad Cymorth mewn Argyfwng. Gall y taliad helpu i dalu am fwyd, dillad, nwy, trydan a theithio mewn argyfwng.

Cyngor ynglŷn â dyledion

I gael cyngor personol ynglŷn â sut i ddeilio â’ch dyledion, defnyddiwch ein Hadnodd Cyngor Digidol. Dywedwch wrthym am eich sefyllfa a’ch dyledion, a bydd ein hadnodd yn rhoi gwybod i chi pa atebion sy’n addas i chi.

Ewch i www.nationaldebtline.org a chliciwch ar ‘Get started’ yn y blwch ‘Find debt solutions’.